Rhif y ddeiseb: P-06-1291

Teitl y ddeiseb: Cynnal ymchwiliad i’r pryniant corfforaethol o’r proffesiwn milfeddygol yng Nghymru

Testun y ddeiseb: Ym 1999, newidiodd Llywodraeth y DU ddeddfwriaeth i ganiatáu i fwy na dim ond milfeddygon cymwys fod yn berchen ar bractisau milfeddygol. Fe wnaeth hyn olygu bod modd i gorfforaethau rhanddeiliaid eciwiti preifat brynu i mewn i’r farchnad hon.

Mae’r sefydliadau hyn sy’n cael ei gyrru gan elw wedi newid y proffesiwn fel mai prin y mae modd ei adnabod. Mae llawer o rannau o Gymru lle mae bron yn amhosibl dod o hyd i bractis milfeddygol sy’n cael ei redeg yn annibynnol.

Mae’r pryniant corfforaethol bellach yn ymestyn i ddarpariaeth y tu allan i oriau a phractisau atgyfeirio yn ogystal â phractisau cyffredinol. Y corfforaethau sydd hefyd yn berchen ar y labordai, y cwmnïau cyffuriau a’r amlosgfeydd anifeiliaid anwes, yn ogystal â rhandaliadau mewn llawer o gwmnïau bwyd anifeiliaid anwes. Mae monopoli o’r fath yn golygu bod bron dim posibilrwydd i’r ychydig o bractisau annibynnol sy’n weddill allu goroesi. Yn bennaf oherwydd eu grym prynu drwy recriwtio, o’r ysgol filfeddygol i’r practis, mae gan y corfforaethau fantais.  Yn y cyd-destun hwn, mae eu dylanwad ar gyrff fel Coleg Brenhinol y Milfeddygon a Chymdeithas Milfeddygon Prydain i’w ddisgwyl.

I’r rheini ohonom ag anifeiliaid anwes, mae’r monopoli hwn wedi cael effeithiau ofnadwy. Mae hyn yn cynnwys diffyg dewis o ran canfod practis annibynnol, gweld yr un milfeddyg ar gyfer parhad gofal a chost. Ond mae’r rhan fwyaf o benderfyniadau clinigol yn cael eu gwneud gyda pholisïau corfforaethol yn fwyaf pwysig.

Mae’n drist dweud bod fy mhrofiad gyda fy nghath Rosa yn golygu na fyddaf byth yn ymddiried mewn rhai yn y proffesiwn. Mae anifeiliaid anwes yn rhan o deuluoedd pobl. Mae Covid, ynysu a phroblemau iechyd meddwl wedi gwneud y berthynas hon yn fwy gwerthfawr byth. Mae’n gas gen i feddwl (ond wedi cael fy hysbysu) sut mae’r sector achub anifeiliaid yng Nghymru yn ymdopi. Oherwydd mae’n rhaid ei fod yn ymdrin â rhai o’r anifeiliaid sydd wedi wynebu’r cam-drin mwyaf a’r her glinigol fwyaf, ac yn aml mae ganddynt anghenion meddygol sylweddol a chymhleth.

Er gwaethaf deisebau niferus i Lywodraeth y DU, nid yw Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig wedi cymryd unrhyw gamau o gwbl. Mae Cymru wedi arwain y ffordd o’r blaen ynghylch anifeiliaid a’u lles, felly rydym yn gofyn i’r Senedd wneud hynny.


1.        Cefndir

Ym 1999, cafodd newid i’r gyfraith ei gyflwyno yn ymwneud â Deddf Llawfeddygon Milfeddygol 1966. Drwy hyn, daeth yn gyfreithlon i bobl nad ydynt yn filfeddygon fod yn berchen ar bractisau milfeddygol am y tro cyntaf yn y DU. Cyn hyn, dim ond milfeddygon cymwys a thrwyddedig oedd yn gallu bod yn berchen ar bractisau.

Yn ôl Coleg Brenhinol y Milfeddygon (RCVS), cyflwynwyd y newid hwn i’r gyfraith o ganlyniad i Ddeddf Cystadleuaeth 1998. Diben y Ddeddf hon oedd creu cysonder â pholisi cystadleuaeth Ewropeaidd, gan y byddai cyfyngu perchnogaeth i filfeddygon wedi cael ei ystyried yn groes i gystadleuaeth neu’n gyfyngol. Mae adran 17.14 o God Ymddygiad Proffesiynol RCVS yn nodi bod milfeddygon yn darparu gwasanaethau drwy amrywiaeth o endidau, gan gynnwys cwmnïau cyfyngedig a phartneriaethau, ac y gall y rhain gael eu rheoli gan rai nad ydynt yn filfeddygon. Fodd bynnag, mae'r RCVS yn disgwyl i sefydliadau benodi uwch-filfeddyg i bennu cyfeiriad proffesiynol priodol.

 

Mae mwyafrif y milfeddygfeydd yn y DU (dros 53 y cant, RCVS) bellach ym meddiant saith cwmni. O’r 343 mangre milfeddygol yng Nghymru, mae 151 ym meddiant saith cwmni (44 y cant). Canfu Arolwg RCVS o'r Proffesiwn Milfeddygol ar gyfer 2019 fod 40 y cant o’r ymatebwyr yn gweithio mewn practisau sy'n rhan o fenter gorfforaethol neu fenter ar y cyd â grŵp corfforaethol. Canfu'r un arolwg hefyd fod rhai ymatebwyr yn pryderu am y cynnydd mewn perchnogaeth gorfforaethol, yn enwedig yr effaith ar ofal anifeiliaid claf, datblygiad milfeddygon iau a chymorth i fusnesau llai.

Mae Cymdeithas Milfeddygon Prydain yn niwtral ynghylch perchnogaeth gorfforaethol ac mae'n croesawu cystadleuaeth a rhoi dewis i berchnogion anifeiliaid anwes. Dywed rhanddeiliaid fod manteision perchnogaeth gorfforaethol yn cynnwys gwell buddion i weithwyr, hyfforddiant proffesiynol a mynediad at gynlluniau graddedigion newydd. Fodd bynnag, eu dadl nhw yw bod hyn yn cael ei wrthbwyso o bosibl gan ddewis clinigol cyfyngedig, oedi wrth wneud penderfyniadau a rhoi gwasanaethau y tu allan i oriau ar gontract allanol.

Ar 18 Chwefror 2022, canfu’r Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd fod prynu Quality Pet Care gan Grŵp CVS (sy’n berchen ar 467 o bractisau milfeddygol yn y DU) wedi codi pryderon ynghylch cystadleuaeth mewn pum ardal leol, lle byddai’r busnesau ar y cyd yn darparu dros 30 y cant o’r gwasanaethau milfeddygol. Yn y pen draw, cytunodd Grŵp CVS i roi’r gorau i Quality Pet Care; derbyniodd yr Awdurdod Cystadleuaeth a Marchnadoedd y penderfyniad hwnnw ar 27 Mehefin 2022.

Mae Cod Ymddygiad Proffesiynol RCVS yn gwahardd milfeddygon neu grwpiau o filfeddygon rhag ymrwymo i unrhyw gytundebau a allai gael yr effaith o bennu ffioedd.

Yng Ngweriniaeth Iwerddon, mae'r Bil Milfeddygfeydd (Diwygio) 2021 yng Nghyfnod 3 yn yr Oireachtas. Diben y Bil yw diwygio Deddf Milfeddygfeydd 2005 i wahardd personau nad ydynt yn filfeddygon rhag perchen ar filfeddygfeydd ac i ddarparu ar gyfer materion cysylltiedig. Trafodwyd y Bil gan y Pwyllgor Dethol ar Amaethyddiaeth, Bwyd a'r Môr, a argymhellodd y dylai fynd ar gyfer ystyriaeth Cyfnod 3.

 

2.     Camau gweithredu Llywodraeth Cymru

Mae llythyr y Gweinidog Materion Gwledig a Gogledd Cymru, a’r Trefnydd (‘Y Gweinidog’) ar y ddeiseb hon yn nodi bod darparu gwasanaethau milfeddygol yng Nghymru yn parhau i fod yn fater nas datganolwyd ac felly ni all wneud sylw nac ymhél â’r mater. Dywedodd y Gweinidog:

[The petitioners] comments regarding general standards of care and charging are a matter of some concern as I feel strongly that the same professional standards should be expected of all vets who practice and offer services to the public, regardless of the model of ownership and operation.

 

3.     Camau gweithredu’r Senedd

Ar 17 Mawrth 2022, yn ystod y sesiwn graffu ar waith y Gweinidog, cododd Pwyllgor yr Economi, Masnach a Materion Gwledig yn y Senedd bryderon ynghylch cwmnïau milfeddygol preifat, mawr yn prynu milfeddygfeydd llai mewn ardaloedd gwledig er nad oeddent yn gallu cynnig darpariaeth lawn o wasanaethau milfeddygol.

Pan ofynnwyd a oedd y Gweinidog yn ymwybodol o hyn neu a oedd yn ddigwyddiad ar ei ben ei hun, atebodd Dr Christianne Glossop, Prif Swyddog Milfeddygol Cymru:

Of course, veterinary practices are commercial businesses and they’re going to make their own commercial decisions, but there has been a trend over the last few years of large corporate practices being established, and, indeed buying some of the independent practices. [..]..We are watching it carefully. Obviously in itself it doesn’t have to be a bad thing. So, as long as the services that we need to be provided are still being provided to the right standard, then it is a matter for the veterinary profession to make its own judgement on that. The Royal College of Veterinary Surgeons sets the standards, so it’s not a question of standards being diminished, although certainly, I’ve been seeing this happening – for example, practices now quite often don’t offer the 24-hour cover; there are night services. So, if you’re trying to get your dog or cat seen out of hours, you might find yourself having to go to an alternative practice. So, that’s an issue. But in terms of provision for the services that we need vets to provide, that’s still happening across Wales, but it is something that we are watching very carefully.

 

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw’r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na’u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.